Yn gyfansoddiadol, cenedl wedi ei darostwng i reolaeth Lloegr yw Cymru, a bwriad rheolwyr Lloegr dros y canrifoedd oedd lladd yr iaith Gymraeg.
Dros y canrifoedd yr ydym ni'r Cymry, fel pobl, wedi mynnu ein hawl i fyw fel cenedl. Mae ein hymgyrch dros ein hiaith heddiw yn rhan o'r frwydr ddynol yma dros ryddid a chydraddoldeb.
Nid ydym yn oresgynwyr ac nid oes gennym unrhyw awydd i dra-arglwyddiaethu dros unrhyw genedl arall ond y mae gennym yr hawl a'r dyletswydd - i wrthod cael ein tra-arglwyddiaethu gan genhedloedd eraill.
Mynnwn ddinasyddiaeth gydradd a chydraddoldeb mewn statws i ni fel cenedl ac i'n hiaith.
Ymateb i bwysau ymgyrchoedd Cymry dros hanner canrif oedd Deddf laith 1993, ond dim ond y cam cyntaf ydyw.
GALWN am statws swyddogol a chydradd i'r iaith Gymraeg yng Nghymru.
GALWN am y cyfle ar arian i sicrhau fod cenedlaethau newydd yn cael dysgu a defnyddio'r Gymraeg.
GALWN am i Gymry gael statws swyddogol a dinasyddiaeth lawn yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn Ewrop.
MAE LLWYDDIANT YN DIBYNNU AR EICH CEFNOGAETH. YMUNWCH Â NI.